Amdanom ni

Cafodd ein cwmni Daffodils coch ei eni wrth inni (Ywain a Becky) fynd ati i drefnu ein priodas gan fod y ddau ohonom wrth ein boddau hefo bwydydd o safon uchel, yn ogystal a Chymry.
Hefyd gan fon Ywain wedi ei eni a`i fagu yn ogleddwr o fri, a Becky yn ogleddwraig anrhydeddus, ar ol iddi symud yma a syrthio dros ei phen a`i chlustiau mewn cariad hefo holl dim rygbi Cymry, (ac mewn cariad hefo Ywain, wrth gwrs!).
Roeddem yn awyddus felly i gynnwys yr holl elfennau yma, sef bwydydd o safon uchel, gan gynhyrchwyro Gymru, ac o ffynnonellau cynaladwy; i mewn i`n brecwast priodas. Tra`n ymchwylio i`r nifer fawr o wahanol gynnych oedd a`r gael cafwyd y syniad y byddai`n braf petai unrhyw un yn gallu prynu`r cynyrch yma, wedi ei becynnu mewn un pecyn hardd, gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymry.
Mae pob un o`r cynyrch sydd yn ein hamperi wedi cael ei brofi yn bersonnol (lawer gwaith!), yn ogystal a`i ddewis am ei becynnu  chwaethus, mae`r cyfan yn dod at ei gilydd mewn hamper y buasech yn hapus i`w roi yn anrheg i unrhyw un, neu hyd yn oed ei gadw ichi eich hun!
Cofiwch ddal i ymweld a`r wefan am fanylion ffeiriau bwyd y byddwn yn ymweld a nhw, ac hefyd am fanylion diweddaraf am ein cynyrch ac am ychwanegiadau tymhorol.
Ebostiwch ni ar, enquiries@reddaffodils.co.uk os hoffech fwy o wybodaeth neu os am greu eich hamper arbenig eich hun.

This post is also available in: English